This property is not currently available. It may be sold or temporarily removed from the market.

Pentrebach, Agos i Lanbed

£650,000 Asking Price

  • 6 Bedrooms
  • 2 Bathrooms
  • 3 Receptions
Building

Land-Small Holding

Tenure

Freehold

Council

Ceredigion

Key Features

  • Tyddyn deniadol 27 erw
  • Wedi'i leoli'n gyfleus ar gyrion Llanbedr Pont Steffan
  • Ffermdy 4 ystafell wely
  • Annedd gyfagos â 2 ystafell wely
  • Wedi’i leoli yng nghanol dyffryn afon Teifi

Get In Touch

Lampeter Office

39 High Street, Lampeter, Ceredigion, SA48 7BB

Email Us Contact Us

Summary

Tyddyn deniadol 27 erw wedi'i leoli'n gyfleus ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, gyda ffermdy 4 ystafell wely, annedd gyfagos â 2 ystafell wely a beudai cerrig traddodiadol hyfryd. Wedi’i leoli yng nghanol dyffryn afon Teifi, tua milltir o Lanbedr Pont Steffan.

Rooms

LLEOLIAD

Un o brif atyniadau’r eiddo hwn yw ei leoliad cyfleus, gyda mynediad deniadol a phreifat oddi ar ffordd A475 Llanbedr Pont Steffan i Lanwnnen, ar hyd lôn daclus wedi’i tharmacio sy’n arwain at yr iard.

TY FFERM

Cafodd y ffermdy ei adeiladu yn wreiddiol, yn ôl pob sôn, yn 1911 o adeiladwaith traddodiadol, gyda ffenestri uPVC newydd wedi’u gosod yn eu lle a’r tô wedi’i adnewyddu rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r ty angen ei wella, ac yn barod i brynwr roi ei stamp ei hun arno. Mae gan y ty wres canolog wedi’i bweru gan olew.

DRWS FFRYNT YN ARWAIN AT
CYNTEDD

Rheiddiadur, grisiau i’r llawr cyntaf, mynediad at gypyrddau storio dan y grisiau

CEGIN / YSTAFELL FWYTA
6.17m x 3.35m (20'3" x 11')

Gydag ystod o gypyrddau sy'n cynnwys uned sinc draenio sengl, pwynt coginio trydan, stôf Parkray gyda boeler cefn ar gyfer cyflenwad dwr poeth domestig.

YSTAFELL HAUL
3.28m x 2.31m (10'9" x 7'7")

Drws mynediad ochr

YSTAFELL FYW
4.27m x 3.25m (14' x 10'8")

Drysau Ffrengig i’r blaen, rheiddiadur, tân nwy LPG (heb ei brofi), alcôf

YSTAFELL YMOLCHI
3.28m x 1.80m (10'9" x 5'11")

Cawod, basn golchi dwylo, toiled, rheiddiadur, drws i’r cyntedd gefn.

LLAWR CYNTAF

Mynediad i'r llofft

YSTAFELL WELY FLAEN 1
3.30m x 3.18m (10'10" x 10'5")

2 rheiddiadur

YSTAFELL WELY 2
2.13m x 1.85m (7' x 6'1")
YSTAFELL WELY 3
3.25m x 3.96m (10'8" x 13')

Ffenestri agwedd ddwbl, rheiddiadur

YSTAFELL WELY I'R CEFN
3.66m x 2.87m (12' x 9'5")

Rheiddiadur, cypyrddau gyda silindr copr

YSTAFELL YMOLCHI
3.00m x 2.13m (9'10" x 7')

Bath, basn golchi dwylo, toiled, mynediad at gypyrddau sychu gyda rheiddiadur.

UNED FYW HUNANGYNHALIOL

Yng nghefn y ty, gyda mynediad naill ai gyda chysylltiad rhwng y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, neu gyda mynediad annibynnol mae uned byw hunangynhaliol sy'n manteisio o'r canlynol:-

YSTAFELL FYW
4.65m x 4.14m (15'3" x 13'7")

Gyda lle tân modern, mynediad at gypyrddau storio dan y grisiau.

CEGIN
4.72m x 1.93m + recess 1.91m x 1.17m (15'6" x 6'4"

Cypyrddau ac uned sinc draenio sengl

YSTAFELL UTILITY
3.81m x 2.01m (12'6" x 6'7")

Drws i:-

CYNTEDD MEWNOL

Boeler gwres canolog wedi’i bweru gan olew

YSTAFELL YMOLCHI
3.28m x 1.91m (10'9" x 6'3")

Rheiddiadur, cypyrddau sychu

LLAWR CYNTAF
YSTAFELL WELY 1
4.39m x 2.21m (14'5" x 7'3")

Ffenestr Velux gyda drws i brif adran y ty

YSTAFELL WELY 2
4.42m max x 3.66m min x 2.29m (14'6" max x 12' min

Ffenest i'r ochr

ALLANOL

Cyrhaeddir yr eiddo drwy lôn breifat wedi’i tharmacio sy’n arwain at iard hyfryd

BEUDY
11.28m x 4.57m overall internally (37' x 15 overal

Wedi’i adeiladu o gerrig gyda tho llechi, wedi’i ail-doi

ADEILADAU YCHWANEGOL
5.97m x 5.13m (19'7" x 16'10")
AIL FEUDY

Gyda beudy cerrig 23'3" x 16'3" a leanto i'r cefn
Adeilad pellach cyfagos- 16' x 14'6"
Yn cynnwys y pwmp dwr gyda llofft arall

LEANTO PELLACH
5.26m x 5.72m (17'3" x 18'9")
BEUDY
12.19m x 6.40m (40' x 21')

Gyda Leanto 20' x 40'.

Y DDAEAR

Mae’r tir wedi’i rannu’n gaeau o faint deniadol o gwmpas y prif ffermdy a thri cae mwy y tu cefn iddynt. Mae’r eiddo wedi’i ffensio’n eithaf da, gyda digon o dir o amgylch yr eiddo i sicrhau preifatrwydd.

GWASANAETHAU

Yn ôl y wybodaeth rydym wedi derbyn, mae'r eiddo wedi’i gysylltu â phrif gyflenwad trydan, dwr preifat o ffynnon, draenio preifat, a gwres canolog wedi’i bweru gan olew i’r prif dy preswyl.

GLYNHIR FARMHOUSE - TRETH CYNGOR - BAND F

Swm yn daladwy: £3317 http://www.mycounciltax.org.uk/

GLYNHIR COTTAGE - TRETH CYNGOR - BAND C

Swm yn daladwy: £2041 http://www.mycounciltax.org.uk/

CYFARWYDDIADAU

O Lanbedr Pont Steffan, cymerwch y ffordd A475 tuag at Lanwnnen, a bydd yr eiddo ar yr ochr chwith fel y nodir gan fwrdd gwerthu yr asiant.

EPC

Map

Brochure

Download

Get In Touch

Lampeter Office

39 High Street, Lampeter, Ceredigion, SA48 7BB

Email Us Contact Us